Beti a'i Phobol - Kristoffer Hughes

Kristoffer Hughes

Download Kristoffer Hughes

Kristoffer Hughes, Pennaeth Derwyddon Ynys Môn ac awdur toreithiog llyfrau am fytholeg a chwedlau Cymru, yw gwestai Beti George.

Mae newydd ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant ac wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w waith fel 'anatomical pathology technologist'- technegydd patholegol mewn marwdy.

Fe fydd hefyd yn gyfarwydd i lawer fel Maggi Noggi, ac mae Kris yn sôn ei fod angen Maggi yn ei fywyd. Mae'n sôn ei fod wedi dioddef o 'body dysmorphia' - " Oni byth yn ffitio mewn, 'o ni'n tyfu i fyny fel hogyn yn symud i mewn i gymdeithas hoyw ac roedd y rheini mor beautiful a doeddwn i jest ddim yn teimlo hynny".

Mae Kristoffer hefyd yn siarad am baganiaeth, derwyddiaeth ac yn dewis caneuon sydd yn agos at ei galon, gan gynnwys rhai gan Eden a Bronwen Lewis.


Published on Sunday, 2nd January 2022.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.