Y gantores Bronwen Lewis sydd yn cadw cwmni gyda Beti George. Fe ddaeth i amlygrwydd yn ystod y cyfnod clo gan iddi rannu ei chaneuon ar y gwefannau cymdeithasol. Fe gafodd brofiad diflas ar sioe dalent The Voice, ond fe agorodd drysau eraill, bu'n canu ar y ffilm Pride ac mae hi bellach yn cyflwyno ar Radio Wales.
Mae'r gantores ifanc o Gwm Dulais yn trafod pam mor allweddol mae'r Gymraeg wedi bod ym mhob rhan o’i gyrfa hyd yn hyn, ac mae hefyd yn sôn am ei diagnosis llynedd o ADHD a hefyd Rejection sensitive dysphoria (RSD).
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.