Beti a'i Phobol - Teleri Wyn Davies.

Teleri Wyn Davies.

Download Teleri Wyn Davies.

"Mae bywyd yn rhy fyr" meddai Teleri Wyn Davies mewn cyfweliad arbennig gyda Beti George. "Mae beth sydd wedi digwydd i Dad wedi siapio fi, ac wedi neud i fi edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol".

Mae Teleri yn un o gyn-chwaraewyr tîm rygbi Cymru, ac wedi derbyn gwahoddiad i gael chwarae a hyfforddi’r gamp yn Tsieina. Mae hi'n byw yn ninas Shenzen sydd wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Tsieina, dinas gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn sy’n cysylltu Hong Kong â'r tir mawr.

Mae hi hefyd yn credu y byddai ei phenderfyniad wedi cael sêl bendith ei thad, Brian 'Yogi' Davies, a fu farw yn 56 oed - chwe blynedd ar ôl cael ei barlysu wrth chwarae ei gêm olaf i Glwb Rygbi'r Bala. Naw oed oedd Teleri ar y pryd, ac mae hi'n cofio'r diwrnod yn glir, ac yn trafod dylanwad ei thad a'i mam.

Mae hi'n trafod rygbi merched ac yn rhannu straeon ei bywyd yn ogystal â dewis caneuon sydd wedi dylanwadu arni, gan gynnwys cân Mynediad am Ddim - Cofio dy Wyneb. Hon oedd y gân ar gyfer angladd Dad. "Mae jyst yn gân mor neis a mor agos i nghalon i. Mi ddaru’r hogiau rygbi ddod at ei gilydd a chanu hon".


Published on Sunday, 9th March 2025.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.