Yn rhan o dymor Merthyr BBC Cymru mae Beti George yn holi Bethan Sayed, gwleidydd gafodd ei hethol i’r Cynulliad yn 2007 pan oedd hi’n 25 mlwydd oed.
Roedd hi'n bach o rebel yn yr ysgol gynradd ac yn y cynulliad yn adnabyddus am draethu'n blwmp ac yn blaen, ac yn barod iawn i herio'r drefn. Fe benderfynodd beidio sefyll yn etholiad 2021, gan nad oedd yn hapus gyda'r hyn oedd yn digwydd yn ei phlaid, Plaid Cymru ac fe benderfynodd ganolbwyntio ar y teulu. Mae hi'n briod â Rahil Sayed sydd yn ymgynghorydd busnes ac yn gweithio yn y byd ffilm Bollywood, ac yn creu ffilmiau yng Nghymru ar gyfer India a'r byd.
Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 cân gan gynnwys cân gan Sobin a'r Smaeliaid; 'roedd hi'n ffan o Bryn Fôn tra'n tyfu fyny ym Merthyr.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.