Download Podlediad Dysgu Cymraeg - 12fed o Chwefror 2020
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Rhaglen Aled Hughes - Gwartheg yn siarad gwartheg - cattle brefu - mooing ymchwil - research ar brydiau hwyrach - at times perhaps tynnu lloiau - pulling calves blawd - cattle feed heffrod - heiffers tarw - bull fel diawl - intensely coelio - credu Yn yr wythnos pan ddaeth y ffilm 'Dr Dolittle' allan dyma Aled Hughes yn penderfynu basai fe'n trio cael sgwrs gyda gwartheg Bryn Roberts o Benisarwaun ger Llanberis. Roedd e wedi clywed bod gwartheg yn gallu brefu mewn 13 o wahanol ffyrdd a bod pob bref yn golygu rhywbeth gwahanol. Dyma sut aeth sgwrs Aled gyda'r gwartheg druan.
Ar y Marc - Corau Rhys Meirion gelynion - enemies dewr - brave cyfres newydd - new series cythraul canu (idiom) - singing rivalry cyd-ganu - singing together profiad gwych - brilliant experience cantorion - singers ymarfer - rehearsal oddi cartre - away buddugoliaeth - victory Aled Hughes oedd hwnna'n trio cael sgwrs gyda gwartheg. Dim ond pedair milltir sy rhwng pentrefi Llanrug a Llanberis yng Ngwynedd ac mae timau pêl-droed y pentrefi yn dipyn o elynion ar y cae chwarae. Penderfyniad dewr felly oedd un Rhys Meirion i ddod â'r ddau dîm at ei gilydd i ganu fel un côr. Ar raglen Ar y Marc cafodd Dylan Jones sgwrs gyda Rhys Meirion, Dafydd Arfon o Lanrug ac Eurwyn Thomas o Lanberis am y syniad dewr yma.
Rhaglen Ifan Jones Evans - Colin Jackson cyflwynydd - presenter ei ardal enedigol - area of his birth arfordir - coast Gwersyll - Camp dyfalu - to guess peiriant amaethyddol - agricultural machine go iawn - real
Cofiwch wylio'r gyfres newydd nos Iau ar S4C i chi gael gweld sut siâp oedd ar y côr erbyn i Rhys Mrieion orffen gyda nhw. Mae yna gyfres newydd arall yn dod i S4C sef Iaith Ar Daith ac yn un o raglenni'r gyfres mae'r cyflwynydd Eleri Sion yn mynd o gwmpas ardal enedigol y cynathletwr Colin Jackson ac yn rhoi cyfle i Colin, sy'n dysgu'r iaith, ymarfer y Gymraeg ar y ffordd. A dydd Llun diwetha, llwyddodd Ifan Jones Evans i ddod o hydi'r ddau ohonyn nhw ar eu taith a'u holi ble byddan nhw'n mynd nesa.
Bore Cothi - Stifyn Parri trawsblaniad gwallt - hair transplant blewyn - a hair tyllu mewn - dig into gwreiddyn - root mae na lu o nyrsys - there's a legion of nurses triawd y buarth - the farmyard trio (welsh folk song) hylif arbennig - special liquid croen - skin ail-blannu - replant planhigyn - plants A bydd yn bosib gweld llawer o bobl sy'n dysgu Cymraehg yn y gyfres Iaith ar Daith, Colin Jackson yn fan'na ond hefyd bydd Carol Vorderman yn ymddangos mewn un o'r rhaglenni. Mae'r actor Stifyn Parri wedi cael trawsblaniad gwallt yn ystod y pythefnos diwetha. Dyma fe ar Bore Cothi'n esbonio'r broses. Oedd hi'n un boenus tybed?
Geraint Lloyd - Aberhonddu Aberhonndu - Brecon tref farchnad wledig - a rural market town Y Bannau - The Beacons diwydiant ymwelwyr - tourist industry traddodaid - tradition amrywiaeth - variety atyniad - attraction camlas - canal nwyddau - goods diwydiant haearn - iron industry Stifyn Parri oedd hwnna yn sôn am ei drawblaniad gwallt. Pa mor dda dych chi'n nabod Aberhonddu? Wel dyma'r dref oedd yn cael ei rhoi Ar y Map ar raglen Geraint Lloyd nos Fawrth, ac un sydd yn nabod y lle yn dda ac wedi byw yno ers hanner can mlynedd bellach ydy John Meurig Edwards. Dyma fe'n rhoi ychydig o hanes y dre.
Beti A'i Phobol - Elinor Snowsill rhyngwladol - international araith - speech mo'yn - eisiau pwysau - pressure cyfarwydd â - familiar with gorfeddwl - to overthink rhyddhâd - relief gan eitha lot - by quite a big margin anaf - injury bwrw (fy) mhen i - hit my head Bach o hanes tref Aberhonddu yn fan'na ar raglen Geraint Lloyd. Gwestai Beti George yr wythnos diwetha oedd y chwaraewraig rygbi ryngwladol Elinor Snowsill. Roedd Elinor yn arfer dioddef o beth roedd hi'n ei alw'n Performance Anxiety. Beth oedd effaith hyn ar ei gêm a sut wnaeth hi ddodd dros y cyflwr? Dyma hi'n esbonio wrth Beti.
Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.