Y Podlediad Dysgu Cymraeg - Podlediad Pigion y Dysgwyr 9fed o Ebrill 2020

Podlediad Pigion y Dysgwyr 9fed o Ebrill 2020

Download Podlediad Pigion y Dysgwyr 9fed o Ebrill 2020

Bore Cothi Mercher 01/04/20 Carys a Meryl "...Cafodd Shan Cothi sgwrs ddydd Mercher gyda Carys Eleri a'i mam Meryl o’u tŷ yn Y Tymbl ger Llanelli. Mae’r ddwy yn hunan-ynysu ond yn cadw eu hunain yn brysur hefyd gan fod yna Hot Tub newydd gyrraedd y tŷ. Maen nhw’n sôn yn y sgwrs am Nia Medi , merch Meryl a chwaer Carys Eleri ydy hi..."

hunan ynysu - self isolating creadigol - creative synfyfyrio - to meditate i'r gwrthwyneb - to the contrary mor glou - so quickly ar garlam - at a pace cynnal - to sustain rhoi at ei gilydd - to assemble Uwch - at ei gilydd piben ddŵr - water pipe

Aled Hughes Dydd Llun 30.03.2020 Ffaith ffyrnig "Meryl a Carys Eleri yn edrych ymlaen at yr Hot Tub. Carys gudda llaw ydy prif seren y ddrama Parch ar S4C. Gyda'r ysgolion ar gau, mae Aled Hughes yn annog plant Cymru i gysylltu gyda ffaith ffyrnig y dydd. Llew o Brynrefail, ger Llanberis, oedd yn sgwrsio ac yn rhoi ffaith bore Llun, a ffaith ffyrnig iawn oedd hi hefyd..." annog - to encourage ffaith ffyrnig - a ferocious fact y nawfed ganrif - 9th century gafr - goat egni - energy darganfod - to discover

Aled Hughes Iau 02/04/20 Llyfrau plant "Ffaith ffyrnig Llew yn fan'na ar raglen Aled Hughes. Dydd Iau diwetha roedd hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Llyfrau Plant ac yn benblwydd Hans Christian Andersen. Felly dyna oedd y diwrnod perffaith i'r awdures Anghaarad Tomos lansio ei llyfr newydd yng nghyfres Rwdlan , a hynny'n fyw ar raglen Aled Hughes..." Ail ymddangos - to reappear cymeriadau - characters anos - more difficult diogi - to be lazy newydd sbon danlli - brand new cynulleidfa - audience gwaith unig - lonely work ymateb - responding dos ati - go for it y canlyniad - the result

Bore Cothi Iau 02/04/20 Ffion "Newyddion da i blant Cymru yn fan'na gan Angharad Tomos. Nesa, dyma i chi flas ar sgwrs cafodd Shan Cothi gyda Yvonne Davies o Dreioan ger Caerfyrddin am ei merch Ffion. Roedd Ffion eisiau gwneud rhywbeth arbennig i helpu’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol i ddiolch iddyn nhw am yr holl waith maen nhw’n wneud ... "

Y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol - The NHS ymdopi - coping ddim yn ffôl - not bad yn y man - shortly wedi dod i glawr - has come to mind cefndir - background dipyn o her - quite a challenge corfforol - physical

Jazz gyda Tomos Williams Gwener 03/04/20 Owen Martell "Da iawn Ffion am gael syniad gwych i helpu'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Y nofelydd Owen Martell oedd yn dewis cerddoriaeth ar raglen Jazz Tomos Williams nos Wener. Dyma fe'n sôn am un o'i hoff ganeuon jazz.... " Canol y chwedegau - the mid-sixties sylweddolais i - I realised teimlo'n amgerddol - to feel passionately darnau penodol - specific pieces yr argraff - the impression fel y cyfryw - as such oesol - perpetual bydysawd annelwig - an abstract universe bara beunyddiol - daily bread caethiwed - slavery

Ifan Evans Dydd Mawrth 31.03.2020 Iona ac Andy "Owen Martell yn sôn am ei hoff gerddoriaeth jazz yn fan'na. Cafodd Ifan Evans sgwrs gyda chwpwl oedd yn dathlu eu prodas ruddem ddydd Mawrth - y ddeuawd canu gwlad Iona ac Andy. Mae'r ddau yn byw yn yr Alban erbyn hyn ond roedden nhw'n gobeithio dod yn ôl i Gymru i ddathlu penblwydd eu priodas. Dyma Iona'n sgwrsio gyda Ifan... " priodas ruddem - ruby wedding canu gwlad - country & western cyfansoddi - to compose alawon - tunes wedi synnu - surprised gwerth chweil - worthwhile wedi elwa - have benefited pennill - a verse emynau - hymns wedi eu gohirio - postponed


Published on Thursday, 9th April 2020.

Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.