Y Podlediad Dysgu Cymraeg - Pigion y Dysgwyr 21ain Awst 2020

Pigion y Dysgwyr 21ain Awst 2020

Download Pigion y Dysgwyr 21ain Awst 2020

MALI LLYFNI Yn ystod y pythefnos nesa, mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i effaith Covid 19 ar bobl ifanc ar ein rhaglenni - ‘Haf Dan Glo’ . Nos Lun diwetha cafodd Nia Lloyd Jones sgwrs gyda Mali Llyfni o Benygroes yng Ngwynedd i holi sut oedd y pandemig wedi effeithio arni hi...

Cyflwyno To present

Amgylchiadau teuluol Family circumstances

Gweithwyr allweddol Key workers

Wedi (fy) nharo i Has struck me

Ansicrwydd Uncertainty

Y gymuned wedi eich cofleidio chi The community has embraced you

Holi To ask about

Cyflogi To employ

Y genhedlaeth nesa’ The next generation

Rhyfedd Strange

REBECCA HAYES Mae John Hardy yn cyflwyno rhaglen gynnar iawn ar Radio Cymru, ac os wnewch chi godi’n ddigon cynnar i wrando arni hi mae’n gymysgedd hyfryd ben bore o gerddoriaeth a sgyrsiau diddorol. Dyma i chi flas ar sgwrs gyda Rebecca Hayes fasai’n berthnasol i bob un ohonoch chi’n sy’n codi’n gynnar, gan gynnwys John Hardy wrth gwrs...

Perthnasol Relevant

Ceiliog Cockerel

Cyn-berchennog former owner

Dirwy A fine

Llwyth o gwynion Loads of complaints

Dihuno Deffro

Gwireddu To verify

Canfod To find

Honiadau Allegations

Shwd (Sut) beth Such a thing

Rhybudd Warning

WINNIE JAMES Cafodd Ifan Jones Evans sgwrs gyda Winnie James y gogyddes o Grymych yn Sir Benfro wythnos diwetha. Mae Winnie newydd briodi ond sut mae’r cyfnod clo wedi effeithio arni hi tybed?...

Mwy tebygol More likely

Torrodd hynny (fy) nghalon i That broke my heart

Chi m’bo Dach chi’n gwybod

Sa i di cael Dw i ddim wedi cael

Am sbel For a while

LISA ANGHARAD Mae yna ddigon o raglenni gwych i wrando arnyn nhw ar BBC Radio Cymru wrth gwrs, drwy’r dydd bob dydd, ond tybed beth mae Hywel Llion yn cynghori Lisa Angharad i’w wylio ar y teledu? Cynghori To advice

Dychmygu To imagine

Yn y bôn Essentially

Yn amlwg Obviously

Wastad Always

CARYS ELERI Sdim byd gwell na chael llythyr drwy’r post nac oes, ac fel eglurodd Carys Eleri wrth Catrin Heledd a Carl Roberts, cafodd hi lythyr arbennig iawn yn ddiweddar

Yn ddiweddar Recently

Ro’n i wedi hala’r gân I had sent the song

Rhyddhau To release

Perthynas Relationship

Yn gyson Consistently

Tad-cu Taid

Llosgi To burn

Llawysgrifen Handwriting

Am fod mor garedig For being so kind

CARYS EDWARDS A CAROL JONES Ac i orffen yr wythnos yma, dyma i chi Carys Edwards o Wenynfa Pen y Bryn a Carol Jones o gwmni jam y "Welsh Ledi" yn sôn am eu menter newydd wrth i'r ddau gwmni uno.

Gwenynfa Apiary

Stondin Stall

Mêl Honey

Ei chynnyrch hi Her produce

Manylion Details

Datblygu To develop

Cynhyrchu To produce

Cystadlu To compete

Canolbwyntio To concentrate

Eirin Plums

Yn dymhorol Seasonal


Published on Friday, 21st August 2020.

Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.