Download Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 15fed 2022
Bore Cothi ac Aled Jones
Dach chi wedi bod yn gwylio 'The Masked Singer'? Rhaglen ydy hon lle mae pobl enwog yn canu mewn gwisgoedd sydd yn cuddio pob rhan o'r corff, fel bod neb yn medru eu nabod nhw. Tasg y panel oedd dyfalu pwy oedd y tu ôl i'r wisg. Roedd y ffeinal nos Sul ac mi ddaeth y Gymraes Charlotte Church yn ail - hi oedd 'Mushroom'. Ond roedd Cymro yn y gystadleuaeth hefyd, Aled Jones - a fo oedd "Traffic Cone". Bore Mercher ar Bore Cothi mi gaeth Shan Cothi sgwrs efo Aled am y rhaglen...
Dyfalu - To guess Yr ail gyfres - The second series Chwyslyd - Sweaty O mam bach - OMG Taith Gadeirlan - The Cathedral Tour
CYMRU CARWYN Evan James
Ac os gweloch chi'r ffeinal - mi roddodd Charlotte Church gliw Cymraeg i'r panel, y gair 'modryb' - ond doedd hynny ddim wedi helpu'r panel o gwbl gan fod neb ohonyn nhw'n deall Cymraeg!
Mae Carwyn Jones yn teithio o gwmpas Cymru ac yn rhannu ychydig o hanes y llefydd mae o'n ymweld â nhw efo gwrandawyr Radio Cymru. Nos Iau, mi fuodd o ym Mhontypridd a chael hanes cynnar Evan James, sef awdur cân sy'n cael ei chlywed yn aml ar hyn o bryd yn ystod y gemau rygbi rhyngwladol... ia, yr anthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau . Dyma Gwen Griffiths....
Rhyngwladol - International Hynafol - Ancient Diwylliant - Culture Melin wlân - Woolen Mill Ar bwys - Wrth ymyl Cynhyrfus - Exciting Y Chwyldro Diwydiannol - The Industrial Revolution Camlas - Canal Beirdd - Poets Blaengar - Progressive
Cofio - Nigel Owens yn ymddeol
Gwen Griffiths oedd honna'n rhoi ychydig o hanes Evan James awdur geiriau 'Hen Wlad fy Nhadau' wrth Carwyn Jones.
Ymddeol oedd pwnc Cofio wythnos yma a chafodd John Hardy sgwrs efo Nigel Owens sydd wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi rhyngwladol ers dros dwy flynedd erbyn hyn. Gofynnodd John iddo fo oedd o'n colli'r dyfarnu o gwbl...
Dyfarnwr Rygbi Rhyngwladol - International Rugby referee Gweld eisiau - To miss Torf - Crowd Trosgais - Conversion Ysgol gyfun - Comprehensive school Y diweddar - The late Yn galetach - Harder Nawr ac yn y man - Now and then Cyfrifoldeb - Responsibility
Ifan a Tom Bwlch
Nigel Owens yn cadw ei hun yn brysur ar y fferm ar ôl iddo fo ymddeol fel dyfarnwr rygbi rhyngwladol. Pnawn Mercher mi gafodd Ifan Evans sgwrs efo ffarmwr bach arall, Tomos Lewis, un ar ddeg oed o Ddihewyd ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion. Mae Tomos wedi cymryd rhan yn rhaglen Cefn Gwlad efo Ifan yn 2020 ac mae wedi sôn wrtho fo o'r blaen ei fod wedi mynd i drafferthion yn yr ysgol am roi mwy o sylw i ffermio nag i'w waith ysgol. Dyma fo dweud wrth Ifan beth ddigwyddodd pan anghofiodd Tomos wneud ei waith cartref...
Trafferthion - Trouble Ambyti e - Amdano fo Rhwydd - Rhwydd Y Da a'r lloi - The cattle and calves Drygioni - Mischief Safle - Position Bachwr - Hooker Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Cais - A try Chwaled - A rout
Aled Hughes a Andrew White Star Wars
Dw i'n siŵr bod Tomos wedi mwynhau'r gêm ddydd Sadwrn gan fod Cymru wedi curo'r Alban o ugain pwynt i un deg saith.
Y Millennium Falcon ydy llong ofod mwya adnabyddus ffilmiau Star Wars, ond oeddech chi'n gwybod mai yn Noc Penfro cafodd y llong ei hadeiladu? Mi gaeth Aled Hughes sgwrs efo Andrew White o gronfa'r loteri i sôn am brosiect i greu arddangosfa yn Noc Penfro i ddathlu'r ffaith fod y Millennium Falcon wedi cael ei hadeiladu yno yn y 70au.
Adnabyddus - Famous Llong ofod - Space ship Arddangosfa - Exhibition Byd eang - Worldwide Sïon - Rumours Cyfrinach - Secret Denu - To attract Adfywiad economaidd - Economic renewal Atgyfnerthu - To strenghen Teimlad o falchder - Feeling of pride
Ar y Marc Lowri Serw Aled Hughes yn fan'na yn cael tipyn o hanes adeiladu'r Millenium Falcon yn Noc Penfro.
Mae Lowri'n dod o Lanrwst ac yn gweithio fel nyrs iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Ond mae hi hefyd yn ffan mawr o dîm pêl-droed Wrecsam. Mae hi wedi sefydlu grŵp sgwrsio ar gyfer merched sy'n cefnogi Wrecsam fel un ffordd o helpu efo unrhyw broblemau iechyd meddwl. Beth sy'n digwydd yn y sesiynau tybed? Dyma Lowri'n sgwrsio ar Ar y Marc
Sefydlu - To establish Cymuned - Community Gwerthfawrogi - To appreciate Gwamalu - To vacillate Angerddol - Passionate Boed - Whether it be Llifo drwy dy wythiennau - Flowing through your veins Gôl-geidwad - Goalkeeper Y Wefr - The thrill
Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.