Download Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 22ain 2022
Mali Ann Rees Bore Sul
Bore Sul diwetha roedd yr actores Mali Ann Rees yn sgwrsio efo Betsan Powys am ei bywyd a'i gyrfa. Aeth Mali i goleg drama adnabyddus, ond fel clywon ni yn y sgwrs, doedd y cyfnod yn y coleg ddim yn un hawdd iddi hi.
Adnabyddus - Enwog Cyfnod - Period (of time) Her - A challenge Lan - Fyny Cyfarwyddwyr - Directors Goroesi - Surviving Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Ystyried - To consider Ta beth - Beth bynnag
Da clywed, ynde, bod penderfyniad Mail i ddal ati yn benderfyniad cywir, ac ei bod yn medru gwneud gyrfa i'w hunan fel actores.
Troi'r Tir
Mae Dai Jones yn dod o Gapel Bangor yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n gweithio fel rheolwr fferm Woodlands ger Greenwich yn Llundain. Fferm gymuned yw hon a dyma Dai yn esbonio beth sy'n digwydd ar y fferm ar Troi Tir...
Cymuned - Community Cyfer - Acre Gwenith - Wheat Gwirfoddolwyr - Volunteers Gwartheg - Cattle Hwch - Sow Gwair - Hay Syndod - A surprise Argraff - Impression Pwysau - Pressure
Hanes beth sy'n digwydd ar fferm gymuned yn Llundain ar Troi'r Tir yn fan'na.
Beti a Edward Keith Jones
Edward Keith Jones oedd gwestai Beti George, a fo ydy Prif Ymgynghorydd Newid Hinsawdd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr 8 mis diwetha mi gafodd salwch difrifol a buodd o yn yr ysbyty am wythnosau. Yn y clip yma mae o'n sôn am sut mae'r cyfnod hwnnw o salwch wedi newid y ffordd mae o'n edrych ar y byd ac ar y blaned...
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - National Trust Prif ymgynghorydd - Chief consultant Newid hinsawdd - Climate change Difrifol - Serious Llai o amynedd - Less patience Llewygu - To faint Ymennydd - Brain Dynol - Human Anadlu - To breathe Llwyth - Loads
Edward Keith Jones oedd hwnna o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn swnio'n benderfynol iawn yn doedd? Beth arall fasech chi'n ddisgwyl gan ddyn ddringodd pob mynydd yng Nghymru, 183 ohonyn nhw, i ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant.
Munud i Feddwl Casia William
Yr awdures a'r bardd Casia William oedd yn rhoi munud i feddwl i ni fore Mercher a buodd hi'n sôn am y gêm sydd wedi troi'n ffenomenom ar draws y byd - Wordle
Penderfynol - Determined Yn eiddgar - Fervently Cynifer ohonom - So many of us Wedi cael ein hudo - Have been captivated Ehangu - To expand Yn gynyddol anghyfartal - Increasingly unequal Tegwch - Fairness Methdalwr - A bankrupt Byd-eang - Worldwide Cyfiawnder - Justice
Casia William yn rhoi munud i ni feddwl am pa mor anghyfartal ydy'r byd y dyddiau hyn.
Bore Cothi Syr Geraint Evans
Ar Bore Cothi buodd y bas bariton Anthony Stuart Lloyd yn rhoi ychydig o gefndir y canwr byd enwog Syr Geraint Evans fasai wedi dathlu ei ben-blwydd yn gant oed ar Chwefror un deg chwech eleni. Dechreuodd drwy sôn am y stryd lle cafodd Syr Geraint ei eni - stryd reit enwog a dweud y gwir...
Arweinydd - Conductor Menywod - Merched Rhyngwladol - International Ysgrifennydd Cartref - Home Secretary
Rhyfedd ynde, bod cymaint o enwogion wedi cael eu geni mewn un stryd fach yng Nghilfynydd ger Pontypridd.
Bore Cothi Sophie Tuckwood
Arhoswn ni efo Bore Cothi am y clip ola. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo Sophie Tuckwood sy'n dod o Nottingham yn wreiddiol ond sy'n byw yn Hwlffordd erbyn hyn. Mae Sophie wedi dysgu Cymraeg cystal fel ei bod wedi dechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg i oedolion, ac fel cawn ni glywed enillodd hi wobr arbennig iawn llynedd
Hwlffordd - Haverfordwest Gwobr - Award Yr ifanca - Y fenga Cwympo - Syrthio Trwy gyfrwng - Through the medium of
Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.