Download Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 1af 2022
Shan Cothi a Geraint Jones Sut mae gwneud y dorth berffaith? Wel roedd hi'n wythnos Real Bread Week wythnos diwetha ac ar Bore Cothi mi gafodd Shan farn y pobydd Geraint Jones. Mae Geraint a'i wraig yn berchen ar fecws yn Llydaw a dyma oedd ganddo fo i'w ddweud wrth Shan... Llydaw - Brittany Burum - Yeast Toes - Dough Lefain - Leaven Crasu - To bake Codi chwant - To whet the appetite Malu - To mill Ffwrn - Popty Troad y ganrif diwetha - Turn of the last century Naws neilltuol - Special quality
Geraint Jones yn fan'na yn codi chwant ar Shan Cothi, ac arnon ni i gyd dw i'n siŵr!
Troi'r Tir Sam Robinson Mae'r bugail Sam Robinson yn dod o Rydychen yn wreiddiol ond mae o'n byw ym Mro Ddyfi yng ngogledd Powys erbyn hyn. Fel cawn ni glywed ar Troi'r Tir mae o erbyn hyn yn rhugl yn y Gymraeg ac yn mwynhau cymryd rhan yn y gymuned leol. Bugail - Shepherd Rhydychen - Oxford Athroniaeth - Philosophy Ta waeth - Beth bynnag Anhygoel - Incredible Tafodiaith - Dialect Hardd - Beautiful Gwirioni - Dwlu ar Tirwedd - Landscape Cyfoeth - Wealth
A Sam wedi codi acen hyfryd Gogledd Powys yn ogystal. Tasech chi eisiau dysgu mwy am Sam buodd erthygl amdano yn ddiweddar ar Cymru Fyw.
Post Prynhawn Brownies Pam bod criw o Brownies Tunbridge yng Nghaint yn cael cyfarfod Zoom efo Brownies Y Felinheli yng Ngwynedd? Carole Boyce oedd yn gyfrifol am drefnu'r digwyddiad a dyma hi'n rhoi'r hanes ar Post Prynhawn... Caint - Kent Rhwydwaith Menywod Cymru - Welsh Women's Network Ymateb - Response Cyflwyno - To introduce Ymwybodol o fodolaeth - Aware of the existance Heol - Ffordd Cyfarwydd - Familiar Cangen - Branch Daearyddiaeth - Geography
Ac yn ogystal â dysgu Cymraeg i Brownies Caint mae Carole yn diwtor Cymraeg i Oedolion yn dysgu dosbarthiadau ar-lein i ddysgwyr Sir Benfro a dysgwyr Prifysgol Bangor.
Aled Hughes Virginia a Porthcawl Ond dysgwyr o Virginia yng ngogledd America, ac o Borthcawl fuodd yn sgwrsio efo Aled Hughes wythnos diwetha. Beth ydy'r cysylltiad rhwng Anne De Marsay o Virginia, ag un o athrawon Ysgol Gynradd Newton ym Mhorthcawl, Henley Jenkins? Cawn wybod mewn munud ond i ddechrau dyma Anne yn dweud sut aeth hi ati i ddysgu Cymraeg. Medden nhw - They said Hudolus - Magical Ystod eang - A wide range Gwych ynde? Dysgu Cymraeg yn dod â phobl ar draws y byd at ei gilydd ac yn help i blant ysgol Cymru yn ogystal.
Cofio Enwau Dodo Rŵan ta - 'dodo' . Na, ddim fel yn 'dw i'n 'dod o' Gymru, a dim fel yr aderyn oedd yn arfer byw yn Mauritius. Na, mae 'dodo' yn hen air Cymraeg a dyma'r Dr Sara Louise Wheeler sy'n arbenigo ar enwau o bob math ,yn sôn am ei chysylltiad personol hi â'r gair... Arbenigo - To specialize Atgyfodi - To resurrect Nithoedd - Nieces Gan gynnwys - Including Ffurfiol - Formal Dilyniant - Sequel Tarddiad - Source Byddar - Deaf Ysgol breswyl - Boarding school Un genhedlaeth - One generation
Mae'n braf cael clywed am hen enwau'n cael eu hatgyfodi yn tydy?
Bore Sul Tomos Parry Tomos Parry oedd gwestai Elliw Gwawr fore Sul. Mae Tomos yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol ac mae o'n yn berchen ar fwyty Brat yn Llundain. Mae gan y bwyty un seren Michelin ac fel cawn ni glywed mae gan Tomos gynlluniau i agor rhagor o fwytai yn y ddinas fawr... Yn amlwg - Obviously Uchelgais - Ambition Datblygu - To develop
Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.