Y Podlediad Dysgu Cymraeg - Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Orffennaf 2022

Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Orffennaf 2022

Download Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Orffennaf 2022

Cor y Byd Llangollen

Cȏr CF1 o Gaerdydd enillodd gystadleuaeth Cȏr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Eilir Owen Griffiths, arweinydd y côr a Shan Cothi fore Llun diwetha.

Arweinydd Conductor

Ymarfer Rehearsal

Datblygu To develop

Paratoi To prepare

Llwyfan A stage

Symudiadau Movements

Cerddorion Musicians

Creu To create

Balch Proud

Anwen bowlio i'r gymanwlad

…a llongyfarchiadau mawr i Eilir ac i gôr CF1 ynde? Eleni mi fydd Anwen Butten yn cystadlu am y chweched tro yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham, ac mi fydd y gemau’n cychwyn ar yr 28ain o Orffennaf. Mae Anwen wedi cael ei dewis fel Capten Tîm Cymru yn y gemau eleni, felly bydd hi’n gapten ar 202 o athletwyr o Gymru. Gofynnodd Shan Cothi i Anwen sut dechreuodd hi ar y bowlio….

Gemau’r Gymanwlad Commonwealth Games

Tîm hŷn Senior Team

Hyfforddi To coach

Cefnogwr brwd An enthusiastic supporter

Profiadol Experienced

Yn olygu Means

Anrhydedd Honour

Dros Ginio Dyfrig a Rhodri

…a phob lwc i Anwen ac i dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwald nes ymlaen yn y mis.

Tad a mab o Ddolgellau oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y tad , Dyfrig Siencyn, yn arweinydd Cyngor Gwynedd a’r mab, Rhodri ap Dyfrig yn Gomisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C. Dyma Dyfrig i ddechrau’n sôn am ei rôl fel arweinydd y cyngor...

Gomisiynydd Cynnwys Ar-lein Online Content Commissioner

Y gallu The ability

Cymhellion Motives

Nodweddion Characteristics

Dadleugar Argumentative

Etifeddu To inherit

Perthynas Relationship

Anawsterau Difficulties

Chwaraeon rygbi De Affrica

Dyfrig Siencyn a’i fab Rhodri oedd rheina yn sgwrsio efo Dewi Llwyd. Mi gafodd tîm rygbi Cymru fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn De Affrica yn Ail brawf Cyfres yr Haf. Gareth Anscombe a Josh Adams oedd arwyr Cymru yn Stadiwm Toyota, Bloemfontein yn ennill y gêm i Gymru yn y munudau ola. Heledd Anna, cyflwynydd Chwaraeon Radio Cymru fuodd yn trafod efo tîm sylwebu’r gêm, dau gyn chwaraewyr i dimau rhyngwladolCymru, Emyr Lewis a Caryl James...

Buddugoliaeth hanesyddol An historic victory

Ail brawf Cyfres yr Haf The second test in the Summer Series

Arwyr heroes

Tîm sylwebu Commentary team

Yn ysu Itching

Maswr Outside half

Mewnwr Scrum half

Bore Cothi HG yn 80

...ac yn anffodus collodd Cymru’r trydydd prawf yn Cape Town ddydd Sadwrn, ar ôl perfformiad da iawn.

Dydd Mercher y 13eg o Orffennaf mi roedd y darlledwr Hywel Gwynfryn yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mi ddaeth o mewn i'r stiwdio at Shan Cothi i ateb cwestiynau am ei barti penblwydd delfrydol . Un o westeion y parti yn sicr basai’r diweddar Hywel Teifi Edwards...

Delfrydol Ideal

Y diweddar The late

Areithiwr Orator

O’r frest Off the cuff

Di-nodyn Without notes

Cŷn a morthwyl Hammer and chisel

Cynhwysfawr Comprehensive

Cynhesu To warm

Cynghrair League

Diwrnod Dathlu Dai

Tad Huw Edwards y BBC oedd Hywel Teifi Edwards a phen-blwydd hapus iawn i’n Hywel ni ynde? Dydd Sul cyn y Sioe Frenhinol mi roedd Radio Cymru yn cael diwrnod i gofio a dathlu bywyd y diweddar Dai Jones oedd yn cyflwyno’r rhaglen Cefn Gwlad. Mi roedd Dai hefyd yn ganwr arbennig iawn fasai wedi medru gwneud gyrfa iddo’i hun ym myd yr opera. Dyma glip o’r archif lle roedd Beti George yn holi Dai ar gyfer Beti a’i Phobol yn 1989. Y Sioe Frenhinol The Royal Welsh Cefn Gwlad The countryside Hiraethu To long for Pridd Soil Brycheiniog Breconshire Llond dwrn A small amount Aredig Ploughing Dyled A debt Cyfryngau media Mwyniant Pleasure


Published on Tuesday, 19th July 2022.

Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.