Y Podlediad Dysgu Cymraeg - Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Hydref 2022

Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Hydref 2022

Download Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Hydref 2022

TAITH DDRYMIO TUDUR OWEN Mi roedd Tudur Owen yn chwarae drymiau i fand o’r enw Pyw Dall yn niwedd yr 80au ac mi roedd o isio dechrau chwarae eto….creisis canol oed falle? Mi osododd her iddo fo’i hun i ddysgu’r drymiau eto ac mi gafodd o sgwrs efo un o ddrymwyr gorau a mwya profiadol Cymru, Graham Land, a chlywed sut wnaeth o gymryd diddordeb mewn drymio yn y lle cynta… Gosod her - To set a challenge Profiadol - Experienced Sbïad - Edrych Camgymeriad - Mistake Profiad - Experience

GWNEUD BYWYD YN HAWS Caffein oedd pwnc rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth efo Hanna Hopwood. Mewn coffi dan ni‘n gweld caffein fel arfer, ond mae o i'w gael mewn diodydd eraill hefyd fel buodd Dr Teleri Mair yn sôn ar y rhaglen… Symbylydd - Stimulant Ymennydd - Brain Egni - Energy Yn fwy effro - More awake Cyffur - Drug Yn benodol - Specifically Rheswm meddygol - Medical reason Esgyrn - Bones Yn gymedrol - Moderately

ALED HUGHES Bore Llun ar ei raglen mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo Megan Cynan Corcoran o ardal Beddgelert, sydd wedi bod yn chwilio i hanes ei theulu, ac sydd wedi darganfod ei bod yn perthyn i Rhodri Mawr, un o hen Dywysogion Cymru! Ymchwil - Research Canrifoedd - Centuries Tarddiad - Origins Yr Anwyliaid - The Anwyl clan Llyfrgell Gen(edlaethol) - The National Library Arfbais - Coat of arms Cyswllt - Connection Cist - Chest Genedigaeth(au) a marwolaethau - Birth(s) and deaths Cynefin - Habitat

ALED HUGHES Cafodd Aled Hughes sgwrs efo’r actores o Benarth, Morfydd Clark sy’n chwarae rhan y cymeriad Galadriel yn y gyfres Lord of the Rings – Rings of Power sydd ar y teledu ar hyn o bryd. Ond mi fuodd Morfydd yn chwarae rhan cymeriad chwedlonol arall yn y gorffennol sef Blodeuwedd, mewn drama lwyfan Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma hi’n sôn wrth Aled am y profiad hwnnw... Chwedlonol - Mythical Uchafbwyntiau - Highlights Hollol anhygoel - Totally incredible Tu fas - Outside Lleoliad - Location Traddodiadol - Traditional Y gyfres - The series Llong rhyfel - Warship Arwres - Heroine

BORE COTHI Rhywbeth arall sydd ar y teledu, ac yn y sinemâu, ar hyn o bryd ydy Blonde, addasiad ffilm o nofel am fywyd un o eiconau mwya Hollywood, Marilyn Monroe. Aeth Lowri Haf Cooke i weld y ffilm ar ran rhaglen Bore Cothi. Addasiad ffilm - A film adaptation Dadleuol - Controversial Dehongliad - Interpretation Adnabyddus - Enwog Camdrin - To abuse Delwedd - Image Eithriadol - Exceptional Amrwd - Raw Dychrynllyd - Frightening Trais - Violence

BORE COTHI Mae Syr Bryn Terfel yn mynd ar daith o gwmpas Prydain y mis yma ac mi gafodd o sgwrs efo Shân Cothi am raglen perfformiadau’r daith. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Cydio - To grasp? Cyfansoddwr - Composer Amryddawn - Versatile Dramodydd - Dramatist Alawon - Melodies Telyn - Harp Yn arw - A great deal


Published on Tuesday, 11th October 2022.

Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.