Download Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fehefin 2023
Pigion Cofio Amelia Earhart 28.05
Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri wythnos diwetha, y dref honno a Sir Gar oedd thema’r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy. Buodd e’n chwilio am hanesion o’r sir a dyma i chi glip bach o raglen “Ddoe yn ôl” o 1983 a Gerald Jones, cyn bennaeth Brigâd Dan Sir Gaerfyrddin yn llygad dyst i Amelia Earhart yn glanio ym Mhorth Tywyn o’r America yn 1928.
Llygad dyst Eye witness
Arbenigo To specialise
Lodes Merch
Ehedeg Hedfan
Porth Tywyn Burry Port
O bellter From a distance
Pigion Bore Sul Nicky John 28.05 Hanesion diddorol am Amelia Earhart yn fanna gan Gerald Jones . Gwestai arbennig Iwan Griffiths ar raglen Bore Sul oedd Nicky John, y gohebydd chwaraeon. Mae hi wedi gweithio ar raglen Sgorio ar S4C ers tua 17 o flynyddoedd, a dyma hi’n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa.
Gohebydd Correspondent
Uchafbwyntiau Highlights
Dychryn To frighten
Gwibio heibio Flying past (lit: darting past)
Rhyngwladol International
Braint Privilege
Ar lawr gwlad At grassroots level
Pigion Shelley & Rhydian Llyr Ifans 27.05
Wel ma Nicky John wrth ei bodd gyda’i gwaith on’d yw hi? Llyr Ifans oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae o’n cymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith ar S4C ar hyn o bryd yn helpu’r actor Neet Mohan, sydd i’w weld ar Casualty, i ddysgu Cymraeg. Buodd Llyr hefyd yn actio ar Casualty ddwywaith ac wedi dod ar draws Neet yn y gyfres...
Cyfres Series
Digwydd bod It so happened
Bellach By now
Awydd Desire
Gweithgareddau Activities
Carchar Rhuthun Ruthin Gaol
Anhygoel Incredible
Synau Sounds
Pigion Bore Cothi Marlyn Samuel 29.05
A tasech chi eisiau gweld pa mor dda yw Llŷr fel tiwtor mae’n bosib ei weld yn dysgu Neet at S4C Clic. Elain Roberts enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd eleni , ond cafodd Shan Cothi sgwrs gyda un o gyn enillwyr y Fedal - yr awdures Marlyn Samuel. Enillodd Marlyn y Fedal yn Eisteddfod yr Urdd Merthyr Tydfil yn 1987. Ei ffug enw oedd ‘Sallad‘ – pam tybed? Wel ‘roedd Marlyn yn ffan mawr o’r opera sebon Dallas, ond tasai hi wedi rhoi Dallas fel enw basai pawb wedi ei hadnabod – felly penderfynodd droi’r enw o gwmpas! 22 oed oedd Marlyn ar y pryd, ac yn gweithio fel Gohebydd Môn a Gwynedd i’r rhaglen radio Helo Bobol
Ffug enw Pseudonym
Ffodus Lwcus
Y flwyddyn cynt The previous year
Testunau Syllabus (list of competitions)
Cynrychiolydd Representative
Fy nghyfnither My female cousin
Duwadd annwyl Dear me
Rhybudd Warning
Dim siw na miw Not a word
Pigion Siarcod Jake Davies 29.05
Marlyn Samuel oedd honna’n cofio’r adeg pan enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd. Y biolegydd Jake Davies, oedd yn sôn am siarcod oddi ar arfordir Cymru ar y rhaglen wyddonol Yfory Newydd. Mae’n gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru ac i Sw Llundain, a dyma fe’n siarad am ei waith yn astudio’r moroedd ym Mhen Llŷn...
Cymunedau Communities
Gwaith maes Fieldwork
Abwyd Bait
Mecryll Mackerels
Rhywogaethau Species
Bad achub Lifeboat
Cynefinoedd Habitats
Pigion Sara Gibson 31.05
Hawdd iawn gweld bod Jake yn frwd iawn am ei waith on’d yw hi? Bore Mercher roedd Sara Gibson yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym. Cafodd hi sgwrs am y pryder ynglŷn â datblygiad deallusrwydd artiffisial. Dyma’r cerddor Lewys Meredydd yn sôn am effaith AI ar greu cerddoriaeth...
Brwd Enthusiastic
Pryder Concern
Deallusrwydd Intelligence
Creu Creating
Bwrlwm Babble
Yn y bôn Essentially
Ffynnu To flourish
Meddalweddau Software
Cynhyrchu To produce
Available Podcasts from Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Subscribe to Y Podlediad Dysgu Cymraeg
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg webpage.