Beti a'i Phobol - Sally Holland

Sally Holland

Download Sally Holland

Cafodd Sally Holland ei phenodi'n Gomisiynydd Plant Cymru yn 2015.

O’r Alban yn wreiddiol, cwrddodd â Chymro o Gasnewydd wrth weithio gyda phobl ddigartref yn Llundain. Fe briodon nhw, gan benderfynu byw yng Nghymru am gyfnod, ac yna symud i'r Alban. Flynyddoedd yn ddiweddarach, yng Nghymru maen nhw o hyd!

Roedd diddordeb mewn hawliau a chyfiawnder cymdeithasol yn amlwg yn nheulu Sally, a mae hynny wedi dylanwadu'n fawr arni. Roedd un perthynas yn Siartydd, ac yn aelod o'r Rochdale Pioneers a oedd yn gyfrifol am sefydlu'r mudiad cydweithredol.

Y sylweddoliad nad yw'r byd yr un mor deg i bawb sbardunodd Sally i faes gwaith cymdeithasol.

Fel Comisiynydd Plant, mae wedi ymgynghori'n helaeth gyda phlant a phobl ifanc, ac yn angerddol dros roi cyfle iddynt i fynegi barn, ac i gyflawni eu potensial.


Published on Sunday, 16th December 2018.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.