Yn wreiddiol o Wauncaegurwen, roedd Barry Morgan yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd i'r brifysgol yn Llundain i astudio hanes, ac yna i Gaergrawnt i wneud gradd mewn diwinyddiaeth.
Cafodd ei ordeinio gan fynd yn giwrad i Ddinas Powys am dair blynedd a bu ar staff Coleg Mihangel Sant, Caerdydd, am ddwy flynedd yn ogystal ag yn darlithio mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd.
Aeth Barry Morgan wedyn yn gaplan i Fangor, gan ddarlithio yn y Brifysgol yno cyn symud i Wrecsam fel offeiriad plwy. Fe'i galwyd nôl i Esgobaeth Bangor, i Gricieth, i fod yn Rheithor ac Archddiacon Meirionydd, cyn ei ethol yn Esgob Bangor yn 1993, yn Esgob Llandaf yn 1999, ac yna'n Archesgob Cymru yn 2003.
Published on Sunday, 7th January 2018.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.