Beti a'i Phobol - Wyn Bowen Harries

Wyn Bowen Harries

Download Wyn Bowen Harries

Beti George yn sgwrsio gyda'r actor Wyn Bowen Harries.

Wrth astudio biocemeg yn Aberystwyth, roedd yn treulio llawer iawn o'i amser yn Theatr y Werin, ac aeth i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd i ddilyn cwrs ôl-radd.

Gyda dyfodiad S4C, daeth yn wyneb cyfarwydd i wylwyr y sianel. Mae ei waith ar hyd y blynyddoedd yn cynnwys rhannau yn Dinas, Rownd a Rownd, Pengelli a 35 Diwrnod, ond y ffilm Gadael Lenin yw uchafbwynt ei yrfa.

Yn fwy diweddar, dilynodd gwrs MA mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy, gan arwain at sefydlu Pendraw - cwmni sy'n ceisio cyfuno profiadau theatrig gyda hanes a gwyddoniaeth.

Published on Sunday, 3rd September 2017.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.