Beti a'i Phobol - Hywel Davies

Hywel Davies

Download Hywel Davies

Beti George yn holi Hywel Davies.

Wedi'i eni ym Mhontarddulais, symudodd y teulu i'r gogledd-ddwyrain pan oedd ond yn 18 mis oed, cyn symud yn ôl i'r de flynyddoedd yn ddiweddarach.

Ar ôl blynyddoedd o fod yn newyddiadurwr yng Nghymru, gan gynnwys gweithio i HTV yng Nghaerdydd, symudodd i America. O'r wlad honno y daw ei wraig, Charlotte, ond roedd hi wedi dysgu Cymraeg cyn i'r ddau gwrdd.

Yn ôl yng Nghymru, symudodd y teulu i Dreforys, ac roedd ei waith teledu'n cynnwys Hel Straeon.

Yn 2007, dechreuodd gyhoeddi Y Papur Gwyrdd, sydd bellach yn wefan. Gyda chymorth Charlotte, tynnu sylw at honiadau difrifol gwyddonwyr ynghylch peryglon i'r Ddaear yw'r nod.

Published on Sunday, 1st October 2017.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.