Beti a'i Phobol - Elin Jones

Elin Jones

Download Elin Jones

Beti George yn sgwrsio gydag Elin Jones.

Ar ôl cael ei magu ar fferm yn Llanwnnen, aeth i Gaerdydd i astudio economeg.

Doedd gwleidyddiaeth ddim o ddiddordeb mawr iddi pan yn ifanc, ond roedd buddugoliaeth Cynog Dafis yn etholiad cyffredinol 1992 yn ysbrydoliaeth.

Ddwy flynedd wedi refferendwm 1997 o blaid datganoli, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad Ceredigion, a hynny yn enw Plaid Cymru.

Mae uchafbwyntiau ei gyrfa'n cynnwys blynyddoedd o fod yn Weinidog Materion Gwledig Cymru, yn ystod cyfnod o gydlywodraethu gyda Llafur.

Hi yw Llywydd y Cynulliad erbyn hyn, sy'n golygu aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser, yn ogystal â gweithio a chymdeithasu ar yr un pryd. Oherwydd hynny, does dim llawer o amser i hamddena.

Published on Sunday, 8th October 2017.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.