Beti George yn sgwrsio gydag Andrew Tamplin.
Yn wreiddiol o Lanelli, cafodd ei fagu ar aelwyd ddwyieithog, a roedd y capel yn rhan bwysig o'r fagwraeth honno. Bu'n canu'r organ yno o oedran ifanc iawn, a daeth i arwain côr merched yn y dref, yn ogystal ag arwain cymanfaoedd canu yn yr ardal.
Dod yn athro oedd y nod wrth fynd i Goleg y Drindod, ond newidiodd ei feddwl a mynd i fyd bancio. Aeth hynny ag o i sawl lle gwahanol, gan gynnwys Southampton, Ynysoedd y Philipinau a Manila. Yna, aeth yn sâl gyda blinder meddyliol a chorfforol, a dechreuodd deimlo'n isel iawn.
Ar ôl ymddiswyddo o'r banc, a chyfnod o driniaeth i drechu'r iselder, dechreuodd feddwl am gynnig cymorth i eraill gyda'u datblygiad gyrfa. Canna Consulting ydi enw'r cwmni yng Nghaerdydd, a mae'n fusnes sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd.
Mae'n byw gyda John, ei bartner, sydd wedi bod yn graig iddo drwy'r cwbl, a mae'r ddau yn adeiladu tŷ yn Y Barri.
Published on Sunday, 15th October 2017.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.