Beti a'i Phobol - Rhydian Bowen Phillips

Rhydian Bowen Phillips

Download Rhydian Bowen Phillips

Cyflwynydd a chyn-aelod o'r band Mega yw gwestai Beti George yn y rhaglen hon.

Cafodd Rhydian Bowen Phillips ei eni yn Aberdâr, ond symudodd y teulu i'r Rhondda, ac yno y bu ei dad yn weinidog.

Bu'n ddisgybl yn Ysgol Llwyncelyn, ac roedd ymysg y cyntaf o ddisgyblion Ysgol Gyfun y Cymer, sydd yn destun balchder iddo.

Aeth i Goleg y Drindod i astudio Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau, a gweld hysbyseb yn holi am aelodau ar gyfer band newydd sbon. Y canlyniad oedd ffurfio Mega.

Mae Rhydian wedi gweithio fel cyflwynydd Planed Plant, La Bamba, i-dot ac Uned 5, ac wedi ennill cystadleuaeth Cân i Gymru.

Wrth sgwrsio gyda Beti, fe yw llais y stadiwm yn ystod gemau pêl-droed Cymru a Chaerdydd.

Published on Thursday, 16th November 2017.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.