Beti George yn sgwrsio gyda'r Almaenes Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.
Ar ôl cael gradd mewn gwleidyddiaeth yn Berlin, aeth i Brighton i astudio llenyddiaeth Saesneg, a dyna ddechrau ar yrfa ym maes cyhoeddi.
Roedd ei swydd gyntaf gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn 2002, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach daeth cyfle i ddysgu Cymraeg. Mae hi hefyd yn siarad Almaeneg, Ffrangeg a Saesneg, a dysgodd Rwseg pan oedd yn byw yn Rwsia am flwyddyn. Yn wir, mae'n credu'n gryf y dylai pawb ddysgu iaith pa bynnag wlad y maen nhw'n byw ynddi.
Ar ôl symud i Wasg Prifysgol Cymru am gyfnod, daeth yn Brif Weithredwr y Cyngor Llyfrau yn 2017, a mae'n dweud wrth Beti fel y mae'n mwynhau'r her honno.
Mae hefyd yn sôn am effaith anodd a thrist yr Ail Ryfel Byd ar ei theulu, ac am y profiad o ddweud wrth ei rhieni ei bod yn hoyw.
Published on Tuesday, 5th December 2017.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.