Yn wreiddiol o Drawsfynydd, fe symudodd David Williams i'r Ganllwyd pan benodwyd ei dad yn brifathro yno. Symudodd y teulu i Seland Newydd pan oedd yn blentyn gan fod galw mawr am athrawon yno. Golygai hyn siwrnai 6 wythnos ar long.
Pan oedd David Williams yn ei arddegau fe ddaeth y teulu yn ôl i Gymru ac fe aeth David ati i astudio newyddiaduraeth. Bu'n gweithio fel is-olygydd newyddion yn Swansea Sound, a rhwng 1977 ac 1987 roedd yn wyneb cyfarwydd ar ein sgriniau teledu fel gohebydd 'Wales Today' a 'Wales This Week' gydag ITV.
Daeth David Williams i sylw'r wasg ryngwladol yn sgil ambell i stori yr aeth ar ei hol, a bu hefyd yn gyflwynydd y rhaglen deledu Dragon's Eye, oedd yn cadw llygad ar weithgareddau ym Mae Caerdydd.
Published on Friday, 25th May 2018.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.