Dramodydd ac awdur yw gwestai Beti, Roger Williams. Ganwyd Roger yng Nghasnewydd ond ei fagu yng Nghaerfyrddin. Roedd yn ysgrifennu'n greadigol tra yn yr ysgol, cyn mynd i Brifysgol Warwick i astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd.
Mae Roger Williams wedi creu dramâu Cymraeg a Saesneg ac mae ei waith wedi ennyn sylw a chlod, gan gynnwys enwebiad BAFTA. Mae cyfres arall o "Bang" ar y gweill ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ffilm fydd i'w gweld yn y sinema. Mae Roger yn byw gyda'i ŵr a'i fab yng Nghastell Nedd.
Published on Sunday, 25th March 2018.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.