Beti a'i Phobol - Lena Charles

Lena Charles

Download Lena Charles

Hel atgofion am ganrif o fywyd mae gwestai Beti George yn y rhaglen hon.

Cafodd Lena Charles ei magu ym Mlaengarw, wedi i'r teulu symud yno o Benmachno i weithio'n y pyllau glo.

Yr olaf ond un o dri ar ddeg o blant, bu farw ei thad pan oedd hi'n ddyflwydd oed, ond fe ailbriododd ei mam. Roedd ei llysdad, Dafydd Hughes, yn ddylanwad pwysig. Diolch iddo fe, mae Lena yn adroddwraig o fri, fel y clywn ni yn y rhaglen.

Mae'n sôn wrth Beti am ei magwraeth ym Mlaengarw, gan gynnwys bywyd y cartref a dylanwad y capel, am Streic 1926, ac am weithio mewn ffatri arfau'n ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae Lena hefyd wedi gweld sawl newid yn yr ardal yn ystod ei chan mlynedd o fywyd.

Published on Sunday, 15th April 2018.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.