Beti a'i Phobol - Meirion Davies

Meirion Davies

Download Meirion Davies

Yn actor ac yn ysgrifennwr, treuliodd Meirion Davies bron i ugain mlynedd yn gweithio mewn gwahanol swyddi yn S4C.

Erbyn hyn, fe yw Pennaeth Cyhoeddi Gwasg Gomer, ond yr hyn sy'n rhoi'r mwynhad mwyaf iddo yw rhedeg Bridfa Heniarth yn Sir Gaerfyrddin.

Etifeddodd Merion ei ddiddordeb mewn ceffylau gan ei rieni, ac fe etifeddodd hefyd ddawn artistig ei fam.

Celf oedd ei fyd pan oedd yn ifanc, gan dderbyn gwersi yn Ysgol y Preseli gan yr artist Aneurin Jones. Mae ei ddyled yn fawr iddo am ei ysbrydoli a'i herio.

Wedi cyfnod mewn coleg celf, aeth i astudio drama cyn dechrau gwneud bywoliaeth fel perfformiwr a sgriptiwr.

I genhedlaeth o Gymry Cymraeg, bydd bob amser yn cael ei gysylltu รข'r rhaglenni teledu Swig o'r 'Steddfod, a chymeriadau fel Horni a'r ddau Frank.

Er hynny, yr hyn sydd wedi ei yrru trwy ei yrfa yw'r dyhead i wneud bywoliaeth er mwyn cynnal ei ddiddordeb ym myd bridio ceffylau.

Published on Sunday, 22nd April 2018.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.