Beti a'i Phobol - Siân Lewis

Siân Lewis

Download Siân Lewis

Beti George yn sgwrsio â Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.

Dychwelyd at yr Urdd wnaeth Siân, wedi cyfnod yn gweithio gyda'r mudiad ar ddechrau'r 90au, ac mae'n disgrifio'r rôl fel swydd ei breuddwydion, er bod dychwelyd i Wersyll Glan-llyn fel aelod o staff yn hytrach na disgybl ysgol yn brofiad rhyfedd.

Cafodd ei magu yng Nghaerdydd, a dyw hi ddim wedi crwydro'n bell iawn o'r brifddinas.

Er ei bod wrth ei bodd yn gymdeithasol yn Ysgol Glantaf, doedd y pwyslais academaidd ddim yn plesio.

Ailddarganfyddodd ei hoffter o fyd addysg yng Ngholeg Rhymni, cyn symud i Brifysgol Morgannwg i astudio busnes, ac yna cwblhau cwrs ôl-radd mewn busnes a chyllid.

Wedi ei chyfnod cychwynnol yn gweithio i'r Urdd, symudodd i Fenter Caerdydd, a thra wrth y llyw yno roedd yn gyfrifol am ddatblygu gŵyl Tafwyl.

Gyda throsiant o £10 miliwn, dros 300 o staff, a hefyd 10,000 o wirfoddolwyr, beth yw gobeithion Siân ar gyfer dyfodol yr Urdd?

Published on Sunday, 29th April 2018.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.