Monwysyn i'r carn yw Gladys Pritchard. Wedi ei geni a'i magu yng Nghaergybi, mae'n parhau i fyw yn yr ardal, a hi yw Trysorydd a Meistres y Gwisgoedd Eisteddfod Môn.
Er na chafodd Gladys erioed 10 allan o 10 mewn gwersi mathemateg, cadw cyfrifon a llaw fer oedd yn mynd â'i bryd yn yr ysgol.
Pan adawodd yr ysgol, aeth i weithio fel clerc i gyfrifydd yng Nghaergybi, a dyna sydd wedi llunio cyfeiriad ei bywyd hyd heddiw.
Wedi cyfnod yn magu ei meibion, aeth i Ysgol Uwchradd Caergybi fel derbynnydd, ac yna fel swyddog gweinyddol, gan gymryd cyfrifoldeb am gyfrifon yr ysgol.
Pan ddaeth Eisteddfod Môn i Gaergybi yn 1979, pwy well i fod yn drysorydd, gan barhau yn y swydd honno hyd heddiw.
Mae Gladys hefyd yn weithgar gyda mudiad y Sgowtiaid ers 1979, gan ddechrau cyrsiau canŵio ar eu cyfer yn Y Bala ac yn Islwyn.
Er nad oes ganddi fawr o amser rhydd, mae'n frodwraig brwd ac yn 'yarn bomber'.
Published on Sunday, 13th May 2018.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.