Beti George yn sgwrsio gydag Arfon Jones, Swyddog Maes Gobaith i Gymru, am gerddoriaeth Stravinsky, cyfnodau yn y carchar dros y Gymraeg, iachâd gwyrthiol ac argyfyngau ffydd.
Ar ôl rhoi'r gorau i'w freuddwyd o fod yn chwaraewr ac athro soddgrwth oherwydd salwch, astudiodd am radd mewn diwinyddiaeth. Ers hynny, mae wedi gweithio i hybu'r ffydd Gristnogol, yn enwedig ymysg pobol ifanc.
Mae'n angerddol ynglŷn â chynorthwyo pobl i fynegi eu ffydd mewn dull sy'n berthnasol i'r ganrif hon.
Fe sy'n gyfrifol am beibl.net, cyfieithiad llafar o'r Beibl, a bu'n rhaid iddo ddychwelyd i astudio Groeg a Hebraeg er mwyn cwblhau'r gwaith hwnnw.
Published on Sunday, 20th May 2018.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.