Beti a'i Phobol - Elin Fflur

Elin Fflur

Download Elin Fflur

Mae Elin Fflur yn gwybod ers pan oedd yn ifanc na fyddai'n medru gwneud swydd sy'n golygu gwneud yr un peth bob dydd.

Roedd ei magwraeth yn ardal Dwyran yn un ddelfrydol, meddai, ac mae wedi etifeddu ei dawn greadigol gan sawl aelod o'r teulu.

Ystyriodd weithio gyda'r heddlu, cyn penderfynu canolbwyntio ar yrfa fel cantores, ac erbyn hyn fel cyflwynwraig hefyd.

Wrth sgwrsio gyda Beti George, mae'n trafod y cyfleoedd a gafodd i ganu y tu allan i Gymru, gan gynnwys treulio amser yn America gyda'r rheolwr David Aspden a'r cynhyrchydd Jim Steinman. Yn y pen draw, fodd bynnag, plesio'r gynulleidfa o'i blaen yw'r peth pwysicaf un.

Rai blynyddoedd yn ôl, cafodd wybod na allai feichiogi'n naturiol, ac mae'n ystyried ei phrofiadau o driniaeth IVF yn rhes o rwystrau. Mae'n credu'n angerddol bod angen trafod IVF yn fwy agored, er mwyn cynorthwyo eraill i ddeall y broses.

Published on Sunday, 9th September 2018.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.