Beti a'i Phobol - Sian Lloyd

Sian Lloyd

Download Sian Lloyd

Mae newyddiaduraeth wedi bod o ddiddordeb i Sian Lloyd ers pan oedd yn ifanc.

Roedd yn rhan o griw a sefydlodd bapur newydd yn ei hysgol, ac ar gyfer ei herthygl gyntaf ymunodd â'r wasg yng ngorsaf reilffordd Wrecsam, i adrodd ar ymweliad gan y Dywysoges Diana.

Wrth sgwrsio â Beti George, mae'n gweithio i wasanaeth newyddion rhwydwaith y BBC, yn gohebu ar straeon o Gymru, neu'n dod â gogwydd Cymreig i straeon newyddion y dydd.

Cafodd Sian ei magu yn Birmingham, cyn i'r teulu symud i Wrecsam pan oedd yn 7 oed.

Daw ei thad o Eifionydd yn wreiddiol, ond cwrddodd ei rhieni mewn capel yn Llundain, ac adleoli i Ganolbarth Lloegr.

Yn ogystal â darlithio ym maes adeiladu, roedd ei thad yn teithio dramor gyda'r Cyngor Prydeinig, yn enwedig i wledydd yn Affrica, i sefydlu cyrsiau yno.

Astudiodd Sian y gyfraith yn y coleg, a threuliodd gyfnodau yn hyfforddi yn Llundain a Hong Kong, cyn dilyn ei breuddwyd a chwilio am waith ym myd newyddiaduraeth.

Mae wedi dal sawl swydd yng Nghymru, yn ogystal â gweithio i'r BBC yn Llundain a Chanolbarth Lloegr.

Published on Sunday, 16th September 2018.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.