Beti a'i Phobol - David John

David John

Download David John

Rhyddid meddwl, bywydau preifat unigolion a hawliau dynol yw'r themâu sy'n mynd â sylw'r awdur David John (D.B. John), dro ar ôl tro yn ei waith.

Yn enedigol o Efail Isaf, bu'n gweithio yn adran gytundebau cwmni cyhoeddi mawr yn Llundain, cyn newid cyfeiriad a gweithio fel golygydd llyfrau i'r un cwmni.

Trwy gymryd cyfnodau di-dâl o'r gwaith, cafodd gyfle i deithio yn helaeth, gan gynnwys cyfnodau yn Ynysoedd Cook a De America.

Cafodd brofiad brawychus yn Wrwgwái, wrth i leidr ei fygwth gyda dryll. Ysbrydolodd hynny stori fer ganddo, gan ailgynnau ei ddiddordeb mewn 'sgrifennu.

Penderfynodd ddilyn cwrs M.A. mewn ysgrifennu creadigol, a ffrwyth y cwrs oedd ei nofel gyntaf, Flights to Berlin.

Mae hefyd yn sôn wrth Beti George am ei gyfnodau yng Ngogledd Corea, yn ymchwilio ar gyfer ei ail nofel, ac am weithio fel cynorthwy-ydd i'r Gordon Brown a'r Tony Blair ifanc yn San Steffan.

Published on Sunday, 23rd September 2018.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.