Ffiseg yw prif ddiddordeb y gwyddonydd Neville Evans. Mae'n dweud ei fod yn wyddor sy'n mynd ar ôl y manwl, ond hefyd yn gweld y darlun ehangach.
Treuliodd ei fywyd ym myd addysg, fel athro, arolygwr, ac yna llywodraethwr.
Cafodd ei ddiddordeb yng ngwyddonwyr Cymreig cyfoes ei sbarduno wedi iddo glywed hanesion lleol yn blentyn am E. G. Bowen a'i arbrofion radar.
Mae'n credu y dylid gwneud rhagor i hybu gwybodaeth disgyblion Cymru am wyddonwyr cyfoes, a fe sy'n gyfrifol am y posteri o wyddonwyr Cymreig mewn ysgolion ledled y wlad.
Mae hefyd yn sgwrsio gyda Beti am ei atgofion o fagwraeth braf yn Gendros, Fforestfach, ac am bwysigrwydd ffydd iddo fe.
Published on Sunday, 28th October 2018.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.