Dyw'r cerdd dantwraig Bethan Bryn ddim yn or-hoff o’r gair arbrofi. Yn hytrach, mae'n credu y dylid dangos bod mwy i gerdd dant na chystadlu, a bod angen gwthio'r grefft tu hwnt i'r llwyfan eisteddfodol.
Ei chwaer Angharad a oedd i fod i gael gwersi telyn yn wreiddiol, ond buan iawn y dechreuodd Bethan ddysgu canu'r offeryn yn ei lle.
Bu'n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru, ac yn yr ysgol daeth dan ddylanwad Aled Lloyd Davies, er iddi ei gythruddo gyda'i gosodiad cyntaf ar gyfer Rhianedd Môn.
Cafodd le i astudio chwaraeon mewn coleg yn Lerpwl, a bu bron iddi ddilyn y trywydd hwnnw yn lle astudio cerddoriaeth.
Cerddoriaeth aeth â hi yn y pen draw, gan arwain at flynyddoedd o berfformio, cyfeilio a hyfforddi; a nid pawb all ddweud i Delynores Maldwyn a Thelynores Eryri ddechrau cecru yng nghanol ei phriodas.
Published on Sunday, 4th November 2018.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.