Beirniadaeth deg, Marilyn Manson a niwrowyddoniaeth yw rhai o'r pynciau trafod wrth i'r actores Carys Eleri gadw cwmni i Beti George.
Wedi ei magu yn Y Tymbl, mae'n ystyried ei magwraeth yn un breintiedig, gan dderbyn pob cefnogaeth a chariad gan ei rhieni.
Astudiodd Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, cyn cael gwaith fel un o actorion craidd Theatr Genedlaethol Cymru.
Er ei bod yn bennaf adnabyddus fel actores, mae'n cymryd diddordeb mawr mewn gwyddoniaeth, gan ddatblygu sioe yn trafod dylanwad yr ymennydd ar gariad. Wrth sgwennu'r sioe, cafodd wybod bod ei thad â chlefyd motor neuron, a mae'n sôn wrth Beti am bwysigrwydd teulu a chyfeillgarwch wrth alaru amdano.
Published on Friday, 8th February 2019.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.