Beti a'i Phobol - John Phillips

John Phillips

Download John Phillips

Treuliodd John Phillips flynyddoedd yn gweithio ym myd addysg.

Bu'n athro, yn swyddog addysg bellach, yn ddirprwy gyfarwyddwr addysg, a hefyd yn gyfarwyddwr addysg.

Yn Sir Aberteifi, ac yna yn Nyfed, roedd yng nghanol y trafod a’r dadlau ynglŷn ag addysg Gymraeg yn y 60au a’r 70au.

Cafodd ei eni a'i fagu yng Ngwauncaegurwen, yn fab i löwr, a mae ganddo atgofion melys o'r gymuned lofaol, a chof plentyn o Abertawe'n cael ei bomio'n ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn yr ysgol ramadeg daeth dan ddylanwad Eic Davies, cyn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Y peth gorau am y coleg, meddai John, oedd cwrdd â Bethan, a ddaeth yn wraig iddo'n ddiweddarach.

Gweithiodd y ddau yn Llundain am gyfnod, cyn penderfynu dychwelyd i Gymru, ac i Geredigion yn y pen draw.

Mae dementia wedi achosi dirywiad yn iechyd Bethan yn y blynyddoedd diwethaf, a mae John yn sôn wrth Beti am ei ymdrech i sicrhau gofal llawn amser iddi.

Published on Sunday, 24th February 2019.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.