Beti a'i Phobol - Llinos Dafydd

Llinos Dafydd

Download Llinos Dafydd

Beti George yn sgwrsio gyda Llinos Dafydd, sy'n cyfuno gwaith fel cyfieithydd, golygydd, newyddiadurwraig a ffotograffydd.

Mae'n disgrifio ei magwraeth fel un ddelfrydol, yn llawn bwrlwm y Clwb Ffermwyr Ifanc a chymeriadau diddorol.

Newidiodd ei bywyd pan oedd yn ei harddegau, o ganlyniad i gael ei threisio, a mae'n sôn wrth Beti am fyw gyda'r ôl-effeithiau.

Gydag ysgrifennu wedi bod yn rhan o'i bywyd erioed, arweiniodd hynny at swydd gyda chylchgrawn Golwg wedi gadael yr ysgol.

Mae'n cyfuno sawl swydd bellach, gan gynnwys arwain prosiect i gyhoeddi e-gylchgrawn Cymraeg ar gyfer merched ifanc, sef Lysh. Mae'r dull yma o weithio'n caniatáu iddi aros yn ei hardal enedigol, ac i fagu teulu yno, sydd yn hollbwysig iddi.

Published on Sunday, 19th May 2019.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.