Gwenan Roberts ydi gwestai Beti a'i Phobol - mae hi wedi bod yn gweithio am flynyddoedd fel Therapydd iaith a lleferydd, ond bellach yn Athro meddylgarwch. Mae hi’n sôn am ei gwaith a’r amrywiaeth o swyddi gwahanol mae hi wedi ei wneud o weithio gyda throseddwyr ifanc i dreulio blwyddyn yn Calcutta. Yn wreiddiol o bentref Dinmael ger Corwen mae hi'n siarad am ddylanwad y fagwraeth glos yna arni.
Cafodd ei chyflwyno i feddylgarwch tua deunaw mlynedd yn ôl ac yr oedd ei ymarfer yn hanfodol iddi yn ystod y cyfnod ansicr a gafodd. Tra'n gweithio llawn amser llawn amser dechreuodd gwrs ôl radd i fod yn athro meddylgarwch.
Published on Sunday, 13th March 2022.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.