Carren Lewis yw gwestai Beti George ac mae ei stori yn mynd a ni o Penrhyndeudraeth i Dwrci a nôl i Sir Benfro. Yn ganolog i'r stori mae hanes ei mab bach mabwysiedig gafodd ei adael mewn bocs ar y ffin rhwng Syria a Thwrci.
Merch o Benrhyndeudraeth ydi Carren, bu'n byw ym Mhwllheli am gyfnod ac wedyn fe aeth draw i Dwrci i weithio yn Marmaris. Yno cyfarfu â'i gwr, ac ar ôl cyfnod anodd yn derbyn triniaeth IVF fe benderfynon nhw fabwysiadu. Mae Carren yn sôn am y cartref plant amddifaid yn Diyarbakır yn Nhwrci lle y daeth hi o hyd i'w mhab. Hogan fach a ddaliodd ei sylw, ond roedd ei mhâm Ann wedi gwirioni ar fachgen bach gyda gwên anferth, brech yr ieir, trwyn budr a llygaid croes. Pan gafodd Carren wybod nad oedd mabwysiadu'r ddau yn opsiwn, roedd yn rhaid dewis.
Dydi Carren ddim wedi celu dim rhagddo. Wrth i blant eraill glywed straeon dychmygol gyda'r nos, roedd Bedri'n clywed am ei hanes mewn cartref yn Nhwrci. Mae bellach yn gwybod am ddyddiau cynharaf ei fywyd hefyd, yn cael ei ddarganfod yn fabi gan hogyn a glywodd sŵn cath ar ei ffordd i'r ysgol.
Dyma stori ryfeddol Carren ac yn ganolbwynt i'r stori mae Bedri Lewis.
Published on Sunday, 10th April 2022.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.