Catrin Ellis Jones yw gwestai Beti ai Phobol, ac mae ei stori yn mynd a ni o Sling, Tregarth i Folivia a Chile a nôl i’r Fenni lle mae hi’n byw bellach gyda’i theulu. Mae hi’n gweithio gydag un o gwmnïau gwerthu ynni mwyaf Ewrop, Vattenfall fel Pennaeth Ymrwymiad Rhanddeiliaid a Chymunedau ac yn trafod gyda chymunedau sut y gall ynni gwynt fod o fantais iddynt.
Bu’n byw ac yn gweithio ym Molivia a Chile, De America am flynyddoedd yn chwilio am fwynau ac yn cydweithio gyda’r bobol gynhenid. Mae hi bellach yn gweithio ar brosiectau ynni yn ein moroedd. "36 % o ynni adnewyddol 'da ni’n ei ddefnyddio yng Nghymru, 60% yn yr Alban, be sw ni’n licio’i weld ydi Cymru ar flaen y gad gyda thechnoleg newydd sydd i ddod fel bod ni'n creu hi'n bosib i ni ddi-garboneiddio mwy o'n diwydiant ni". " Mi fydda Cymru yn medru gwneud dur di-garbon" meddai Catrin.
Published on Sunday, 8th May 2022.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.