Beti a'i Phobol - Siân Eirian

Siân Eirian

Download Siân Eirian

"Arbrofi ac arloesi i'r dyfodol". Dyna eiriau Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a chyn Bennaeth Gwasanaeth Plant gyda S4C.

Fe ddechreuodd ei gyfra fel clerc mewn cymdeithas adeiladu, wedyn ymunodd gyda'r Urdd, ac fe enillodd gwobr Cymraes y Flwyddyn yn 2006.

Yn 2007 fe gafodd Siân ei phenodi yn Bennaeth Gwasanaeth Plant S4C am 6 blynedd. Rhan o friff y swydd oedd creu gwasanaeth ar gyfer plant meithrin ac yn ddiweddarach ar gyfer y rhai cynradd, gan gynnig gwasanaeth cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg ond efo rhaglenni oedd cystal ansawdd a chynnwys a’r hyn oedd ar gael yn Saesneg. Sefydlwyd y sianel CYW ar gyfer plant oed meithrin i 5 oed ac 'roedd yn gyfnod cyffrous iawn. Mae Siân yn sôn am fynd a'r Cyw ei hun i Lundain, ac mae stori ddigri i'w chlywed ganddi am gyfarfod Boris Johnson.

Mae Siân bellach wedi symud nol i'w ardal enedigol yn Llangernyw ac yn rhedeg cwmni ymgynghorol gyda Garffild ei gwr. Bu'r ddau yn gweithio gyda I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! gydag Ant a Dec ar gyfer ITV.

Published on Sunday, 29th May 2022.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.