Beti a'i Phobol - Catrin Atkins

Catrin Atkins

Download Catrin Atkins

Catrin Atkins ydi'r cwmni yr wythnos hon. Cafodd ei geni gyda Spina Bifida a hydrocephalus, ac mae hi’n sôn am y cyflyrau yma a sut maen nhw wedi effeithio arni.

Mae hi bellach yn Coach - Y Coach Cymraeg, ac yn siarad gyda chleientiaid ar draws y byd. Mae hi’n sôn nad oes enw Cymraeg am Coach - sydd yn esbonio yn union beth ydi'r gwaith.

Mae'n chwaer i Barry Griffiths, fu'n reslo yn y WWE, ond sydd ar hyn o bryd yn ymddangos yn y sioe Cirque du Soleil yn Vegas, ac yn byw yno gyda’i deulu ers 10 mlynedd.

Fe dreuliodd Catrin amser yng Nghanada, ac fe newidiodd hyn ei bywyd. Fe sylweddolodd ei bod yn medru gwneud pethau ar ei phen ei hun. Mae hi bellach yn hapus yn ei chroen, ac yn sôn bod hi wedi cymryd amser i gyrraedd y man yma.

Published on Sunday, 19th June 2022.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.