Beti a'i Phobol - Iestyn Davies

Iestyn Davies

Download Iestyn Davies

Dros y blynyddoedd mae’r cyn-dditectif a Phrif Arolygydd Iestyn Davies wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr heddlu’n cynnig gwasanaethau Cymraeg.
Wedi treulio 30 mlynedd gyda Heddlu’r Gogledd, mae Iestyn bellach yn Bencampwr y Gymraeg gyda’r cwmni sy’n gyfrifol am redeg cyrsiau i’r rhai sydd wedi eu dal yn goryrru. UKROEd (UK Road Offender Education) sy’n rhoi trwyddedau i gwmnïau eraill i hyfforddi pobol sydd wedi eu dal yn gyrru yn gyflymach na’r terfyn, a gwaith Iestyn yw sicrhau bod y cwmnïau yng Nghymru yn cydymffurfio â rheolau iaith.

Cyn hynny, bu’r gŵr sy’n byw ym Mhorthaethwy ym Môn yn arwain y tîm oedd yn edrych ar droseddau difrifol, gan gynnwys llofruddiaethau a ddenodd sylw'r byd.

Mae Iestyn yn rhannu straeon bywyd ac yn sôn am y sialensiau a'r mwynhad a gafodd o wneud y gwaith.

Published on Sunday, 20th November 2022.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.