Beti a'i Phobol - Felicity Roberts

Felicity Roberts

Download Felicity Roberts

Mae Felicity Roberts yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Yn 2023 enillodd wobr am fod yn diwtor Cymraeg Ysbrydoledig gyda ‘Inspire Awards’ dan nawdd Llywodraeth Cymru.

Magwyd Felicity ar aelwyd llawn cariad yn Chwilog a bu ei magwraeth yno yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes. Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Chwilog hyd nes roedd hi’n 8 oed, yna am 3 blynedd bu’n aros yng nghwfaint St Gerard’s Bangor. Roedd ei rhieni’n awyddus iddi gael addysg yn y cwfaint er mwyn gwneud yn siŵr bod Felicity yn pasio’r arholiad 11+. Yna mynychodd Ysgol Ramadeg Pwllheli ac ar ôl 2 flynedd ym Mhwllheli safodd yr arholiadau i fynd i Ysgol Howells yn Ninbych.

Ers dyddiau ysgol roedd hi wedi bod yn canlyn Robert Roberts ac roedd y ddau’n fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor. Priododd y ddau ar ddiwedd eu blwyddyn gyntaf a ganwyd eu plentyn cyntaf ar ddiwedd eu hail flwyddyn, y cyntaf o chwe phlentyn i'r ddau.

Swydd gyntaf Felicity pan symudodd y teulu i fyw i Flaenplwyf, oedd swydd rhan amser fel cynorthwyydd ymchwil i ysgolion Meithrin Cymru. Yn 1978 cafodd radd mewn Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ac mi gafodd swydd yn yr adran Gymraeg yn dysgu Cymraeg i ddechreuwyr yno. Ni adawodd Felicity yr adran Gymraeg wedyn am 27 mlynedd.

Daeth ei phriodas â Robert i ben ac mae hi mewn perthynas ers 44 o flynyddoedd efo Jaci ac mae'n byw bywyd prysur iawn rhwng y gwaith a'r teulu mawr.

Published on Monday, 23rd October 2023.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.