Beti a'i Phobol - Guto Harri

Guto Harri

Download Guto Harri

Y newyddiadurwr a'r ymgynghorydd cyfathrebu Guto Harri yw gwestai Beti George.

Mae'n trafod ei gyfnod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu i'r Prif Weinidog Boris Johnson, ac yn rhannu straeon am y cyfnod y bu'n gweithio wrth galon yr hyn oedd yn digwydd yn San Steffan, mewn cyfnod cythryblus yn hanes y lle.

Bu'n gweithio i geisio adfer enw da papurau newydd Rupert Murdoch yn ystod cyfnod y 'phone hacking'. Bu hefyd yn gyflwynydd gyda GB News, ar raglen "Y Byd yn ei Le" ar S4C ac yn gweithio gyda chwmni Liberty Global.

Cawn ei hanes yn brechu pobol yn ystod cyfnod Covid-19, ac mae'n sôn am yr ergyd o golli ei chwaer, ei Dad a'i ffrind pennaf.

Published on Sunday, 5th November 2023.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.