Beti George yn sgwrsio gyda'r cogydd, Tomos Parry o Ynys Môn sydd wedi ennill ei seren Michelin gyntaf am ei fwyty yn Llundain.
Agorodd Tomos fwyty Brat yn Shoreditch ym mis Mawrth 2018 ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Cafodd y seren ei gwobrwyo i Tomos gan Michelin am "goginio rhagorol dros dân agored".
Dros gyfnod COVID agorodd Tomos dŷ bwyta Brats Outdoors lle roedd cwsmeriaid yn gallu eistedd tu allan. Roedd hwn eto’n lwyddiant ac mae’n dal i fynd yn Hackney.
Ei fenter ddiweddaraf ydi’r tŷ bwyta Mountain yn Soho a agorwyd yn mis Gorffennaf 2023. Hefyd, Tomos wnaeth goginio pryd o fwyd i ddathlu 20 mlynedd o briodas David a Victoria Beckham.
Published on Sunday, 19th November 2023.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.