Beti a'i Phobol - Guto Bebb

Guto Bebb

Download Guto Bebb

Mae Guto'n Brif Weithredwr Gwasanaeth Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru ers 2020 ac yn Brif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru yn ei gyfanrwydd ers Chwefror 2021. Cyn hynny, fe fu'n Aelod Seneddol dros Aberconwy am ddegawd gan wasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Guto wedi byw yng Nghaernarfon (ac eithrio ambell gyfnod yn crwydro) ers deugain mlynedd. Cyn ei ethol i San Steffan fe fu'n rhedeg amrywiol fusnesau gan gynnwys Ymgynghoriaeth Datblygu Economaidd a Siop Lyfrau. Am gyfnod, bu hefyd yn gydberchennog ar dŷ tafarn.

Mae'n rhannu straeon am ei fywyd gyda Beti George ac yn sôn i'w yrfa bleidiol wleidyddol mewn dwy blaid wedi dod i ben oherwydd materion Ewropeaidd.
Cawn glywed am ei hoffter o gerddoriaeth o bob math, a'i gasgliad o recordiau sy'n cynnwys nifer o rai Bruce Springsteen a Marillion.

Published on Sunday, 28th January 2024.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.