Download Yr Arglwydd Dafydd Wigley
Yr Arglwydd Dafydd Wigley yw gwestai Beti George, a hynny 50 mlynedd ers ei ethol i San Steffan eleni. Mae'n trafod hanesion ei fywyd prysur ac yn dewis ambell gân.
Wedi 50 mlynedd mewn gwleidyddiaeth mae'r Arglwydd Dafydd Wigley wedi penderfynu ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi eleni. Mae’n dal record o ran Aelod Seneddol i gynyddu’r bleidlais a chynyddu canran y bleidlais a hynny mewn 5 etholiad yn olynol. Mae e wedi cynrychioli Arfon yn Senedd San Steffan am 27 mlynedd.
Fe gafodd Mr Wigley ei ethol yn gynghorydd Plaid Cymru ym Merthyr yn 1972, cyn cynrychioli Caernarfon yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1974 a 2001.
Roedd yn Aelod Cynulliad i Gaernarfon rhwng 1999 a 2003 ac mae wedi bod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 2011.
"Pan ddes i Dŷ'r Arglwyddi gyntaf ddeng mlynedd yn ôl, doedd aelodau fan hyn ddim yn cael ymddeol, mi oeddan nhw'n mynd allan pan oeddan nhw'n marw. Ond wrth gwrs mae hawl i ymddeol wedi dod i fewn."
Cawn stori’r Gangster, Murray the Hump - Llewellyn Morris Humphreys, fyddai wedi bod yn drydydd cefnder i Dafydd Wigley, ef wnaeth greu Las Vegas , cafodd ei recriwtio gan Al Capone ac a oedd ganddo ran yn llofruddiaeth JFK?
Published on Tuesday, 12th March 2024.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.