Beti a'i Phobol - Hazel Thomas

Hazel Thomas

Download Hazel Thomas

Mae gan Hazel Thomas straeon rif y gwlith, mi fu’n torri gwalltiau, yn gwneud gwaith hyrwyddo a datblygu gyda Merched y Wawr. Mae hi'n Gydlynydd cynllun cyffroes Tir Glas gyda’r Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, ond yn fwy na dim hi oedd y fenyw 1af i weithio fel Chef yng nghegin y gwesty enwog The Dorchester yn Llundain.
Ei swydd gyntaf fel Cogydd proffesiynol oedd gydag Anton Mosimann yn y Dorchester yn 1977. Y ferch gyntaf i gael swydd ganddo ar ôl iddo gael ei benodi fel Prif Gogydd y Dorchester.
Cawn hanesion difyr bywyd y ferch o Drefach, aeth i weithio i Lundain o gefn gwlad Cymru yn y 70'au. Cawn hanes rhai o'r bobol enwog y bu'n coginio iddynt gan gynnwys Shirley Bassey.

Published on Sunday, 17th March 2024.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.