Beti a'i Phobol - Alison Roberts

Alison Roberts

Download Alison Roberts

Fe gafodd Alison Roberts ei geni a’i magu ym mhentref Killin yn yr Alban, ac fe ddaeth i Gymru pam gafodd alwad gan ffermwr i ddofi un o’i geffylau. Mae hi bellach wedi priodi ac yn byw ar Ynys Môn, ac yn magu 7 o blant.

Alison enillodd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Daeth i benderfyniad ei bod yn Gymraes pan enillodd hi gystadleuaeth cneifio yn y Sioe Frenhinol, Llanelwedd.

Mae'n gweithio fel gofalwraig ac yn credu ei bod yn bwysig ei bod hi’n siarad Cymraeg gyda'r cleifion.

Roedd hi wedi dysgu Cymraeg wrth wrando ar Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch. Dydy hi erioed wedi cael gwers Gymraeg.

Published on Sunday, 7th July 2024.

Available Podcasts from Beti a'i Phobol

Subscribe to Beti a'i Phobol

We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.