Rhodri Ellis Jones, ffotograffydd dogfen o Ddyffryn Ogwen sy'n byw ger Bologna yn yr Eidal yw gwestai Beti George.
Mae wedi gweithio ar draws y byd yn Affrica, Albania, Cuba, Nicaragua ac El Salvador ac wedi dogfennu yn ddiweddar pobol leiafrifol yn China.
Mae bellach yn ddinesydd yr Eidal ac yn rhannu hanesion ei blentyndod yn Sling, Tregarth a'r bywyd anturus mae o wedi ei fyw.
Fe fydd arddangosfa o'i waith diweddaraf COFIO yn Storiel, Bangor, rhwng Medi'r 7fed tan yr 2il o Dachwedd 2024.
Published on Sunday, 1st September 2024.
Available Podcasts from Beti a'i Phobol
We are not the BBC, we only list available podcasts. To find out more about the programme including episodes available on BBC iPlayer, go to the Beti a'i Phobol webpage.